Dysgwyr y Gymraeg yn ardal Y Garthen

Dyma enwau dysgwyr Cymraeg Anita Evans:

Barbara Demidowicz, Debbie Needham, Lynne Cunningham, Gillian Reeman, Michelle Laine a'i mab Fergus.  Roedd Jennifer Ferguson o Biwla yn absennol.
Mae Michelle Laine sy'n dod o Guernsey, ac mae wedi ysgrifennu ychydig o’i hanes.   Mae'n byw ym Machygwyddil, Penboyr gyda'i gŵr, ei merch Eva, a'i mab Fergus. Mae'n dysgu Cymraeg ers mis Medi.
“Dwi'n byw ym Mhenboyr nawr, ond dwi'n dod o Guernsey yn wreiddiol.  Mae Guernsey yn ynys bach tua 25 milltir o Ffrainc. Mae hi tua 25 (square miles?) Mae 60,000 o bobl yn byw yn Guernsey. Mae llywodraeth ei hunan gyda Guernsey, fel y Isle o Mann.  So hi'n rhan o'r European Union.
Prif ddiwydiant yn Guernsey oedd tyfu tomatos a blodau mewn tai gwydr.  Nawr, mae'r rhan fwya o pobl yn ffarmio arian! (Tax Haven yw Guernsey). Dych chi'n dal gallu weld llawer o tai gwydr, a wrth gwrs, y fuwch Guernsey.  Mae'r fuwch yn wyn a brown, a mae hi'n rhoi llaeth hufennog iawn.  Mae'r llaeth yn gwneud caws a menyn melyn blasus iawn.
Ro'n i'n mwynhau byw yn Guernsey pan ro'n i'n blentyn. Mae'r traethau yn hyfryd ac mae'r tywydd yn dda yn Guernsey.  Gwaries i llawr o amser yn chwarae ar y traeth gyda fy ffrindiau i.
Saesneg yw prif iaith yn Guernsey nawr, ond mae'r famiaith yn "Guernésiais", neu "patois" fel mae hi'n cael ei enw ar yr ynys.  Mae patois fel Ffranc Norman (Norman French). Yn drist, dim ond 2% o bobl sy'n gallu siarad Guernésiais nawr.  Mae'r iaith yn gallu cael ei
gweld yn enwau'r ffyrdd a llefydd, a cyfenwau pobl lleol e.e. Matthew Le Tissier (pel-droedwr) ac Andy Priualx (gyrrwr ras).
Mae pobl lleol yn ceisio helpu'r iaith.  Mae plant yn gallu dysgu patois mewn dosbarth ar ôl ysgol, ond dim yn yr ysgol eto.  Dwi'n cofio gwrando ar pobl yn siarad Guernésiais pan ro'n i ifanc, ond so fy nheulu i yn ei siarad hi. Os dwi'n byw 'na nawr, byddwn i'n dysgu Guernésiais ond dwi'n byw yng Ngymru, felly dwi'n dysgu Cymraeg!”
Michelle Laine

A dyma adroddiad oddi wrth un o ddysgwyr dosbarth Beth Davies

Helo. Byddwch chi’n gadael i fi gyflwyno fy hunan, os gwelwch chi’n dda?
Janet dw i. Dw i’n dod o Loegr yn wreiddiol; dw i wedi byw yn llawer o lefydd gwahanol yn Loegr ond ces i fy ngeni ym Manceinion. Roeddwn i’n athrawes am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd; dysgais i mathemateg yn ysgol gyfun.
Gweithiodd fy ngŵr i gyda chyfrifiaduron fel rheolwr. Mae e wrth ei modd yn nofio yn y môr bob dydd, felly, pryd dyn ni wedi ymddeol, daethon ni i fyw yn Horeb, Ceredigion.
Treulion ni ddwy flynedd yn gwella ein tŷ ni a dwy flynedd yn fwy i wella ein gardd ni. Dyn ni’n tyfu llawer o ffrwythau a llysiau achos dw i’n hoffi coginio.  Mae ein gardd ni’n dim ond chwarter erw ac roedden ni eisiau mwy o dir. Does dim ‘allotments’ ar gael gyda chyngor
Ceredigion. Felly edrychais i am y rhyngrwyd. Mae e’n safle o’r enw “Landshare”. Roedd e wedi dechrau gan Hugh Fearneley Whittingstall. Mae rhai eisiau cael mwy o dir; mae rhai yn cael gormod o dir. Mae ei safle e’n cysylltu’r pobl hyn.
Darganfyddais i gardd fawr dim ond un milltir oddi ar fy nhŷ i. Mae’r gardd yn perthyn i bâr priod anabl. Mae nhw’n hapus ein bod ni’n gweithio yn ein gardd nhw. Dyn ni wedi bod yn gymorth iddynt am y ddwy flynedd diwethaf.
Dyn ni wedi clirio llawer o ‘brambles’ a chwyn ond mae yn llawer i wneud o hyd!
Dyn ni’n edrych ymlaen at y frwythau a llysiau yn yr haf hyn.  Mae pawb e’n gobeithio am haf da!

Dyma un arall sydd wedi dyfalbarhau i ddysgu`r iaith ac sy`n gweithio`n galed iawn. Mor braf yw gweld y dysgwyr yn datblygu a`r peth lleiaf allwn ni wneud yw eu helpu a`u cynorthwyo
Mae`n wyliau`r ha` nawr ond rwyf yn mawr obeithio y byddant i gyd yn dychwelyd i`r dosbarth ym mis Medi.

Beth


 





Cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at y cyfeiriad isod neu drwy ein tudalen cysylltu
ygarthen@yahoo.com

Community Web Kit provided free by BT